Ymddiriedolaeth Genedlaethol
@YGCymru
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. O'r arfordir i gefn gwlad, adeiladau hanesyddol i erddi godidog-rhywbeth ar gyfer pawb. English @NTWales
ID:191490422
https://www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/days-out/cymru 16-09-2010 15:49:50
2,2K Tweets
1,1K Followers
835 Following
Diolch o galon i CilffriwPrimary am ymuno â'n tîm yn Aberdulais heddiw i blannu dair goeden flodeuog. Bydd pobl yn gallu mwynhau'r buddion a ddaw ohoni i fyd natur a gwylio'r goed yn blodeuo am flynyddoedd i ddod. #GwleddYGwanwyn . Diolch i bawb am ddod!
Oes gennych chi hoff flodyn rydych chi’n edrych ymlaen at ei weld bob gwanwyn? I lawer, y tiwlip yw’r ffefryn, a hawdd yw gweld pam, wrth edrych ar arddangosfeydd lliwgar fel hyn yn Plas Newydd NT/YG
Cynlluniwch eich ymweliad: bit.ly/38nYhzz #GwleddYGwanwyn
Mae'r gwanwyn yn Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun llawn coed ceirios pinc, adar yn canu a chyfle i grwydro'n hamddenol wrth i flagur flodeuo yn yr ardd hudolus 5.5 acer hon.
Cynlluniwch eich ymweliad: bit.ly/417g3Qg #GwleddYGwanwyn
‘Cartes de visite’ oedd y ffotograffau cyntaf i’w masgynhyrchu. Maent yn boblogaidd ac yn darlunio enwogion y cyfnod.
Mwy o wybodaeth am yr un yma o’r Dywysoges Alexandra yn Erddig NT/YG yn ‘100 Photographs from the collections of the National Trust’: bit.ly/43JttUu
Mae’r fflachiadau o liwiau’r gwanwyn sy’n blodeuo o’r borderi yn hoelio sylw yn Tredegar House NT/YG Tŷ Tredegar.
O’r briallu hardd a’r tiwlipau sy’n codi calon i liw pinc y coed Ceirios, mae digonedd i’w edmygu ym mhob cornel.
Trefnwch ymweliad yma: bit.ly/3jjIl35
Diolch i Wolfson Foundation, rhoddion gan ymddiriedolaethau elusennol a buddsoddiad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym ar fin rhoi prosiect ar waith yn Nhŷ Mawr Wybrnant i sicrhau y gall pawb fwynhau’r trysor hwn am ganrifoedd i ddod.
Darllenwch ragor: bit.ly/3vwC0x8
Diolch i Samuel Kurtz MS am ymweld â Fferm Gupton, Sir Benfro, wythnos diwethaf i siarad am ffermio sy'n gyfeillgar i natur a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda rhai o'n ffermwyr tenant.
Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chi yn y dyfodol!
Heddiw yw #DiwrnodyLlyfr ac rydym yn diolch i bawb sy’n cefnogi ein siopau llyfrau ail law.
P’un a yw’n wirfoddoli, rhoi llyfrau neu rodd yn gyfnewid am lyfr da Mae’r arian yn cefnogi ein gwaith allweddol yng Nghymru i sicrhau bod y lleoedd hyn yn ffynnu i bawb, am byth.
Dydd Gwyl Dewi hapus wrth ein ci-ceidwad preswyl,Brychan, a'r tîm cyfan ym Mannau Brycheiniog!
Fae ein ffrind blewog yn ymgorffori ysbryd archwilio ac antur sy'n nodweddu ein tirwedd rhyfeddol. Ymunwch â ni i ddathlu drwy archwilio rhyfeddodau cefn gwlad Cymru! #PethauBychain
🌼Dydd Gwyl Dewi Hapus!
Gadewch i ni ddathlu prydferthwch Cymru - mae arfordir Gŵyr yn rhyfeddu pawb sy'n ymweld. P'un a ydych chi'n cerdded llwybrau arfordirol neu'n edmygu'r golygfeydd, gadewch i ni drysori a gwarchod ysblander naturiol Gŵyr bob dydd. #pethaubychain
#DyddGŵylDewi hapus! Yma’n #GarddBodnant , mae ‘na filoedd o gennin Pedr yn bywiogi’r Hen Barc a’r llanerchi yn ystod y gwanwyn. Rydym dal yn aros am yr arddangosfa ‘mawr’, ond dyma rai, Narcissus ‘Peeping Tom’, sy'n edrych yn dlws iawn. Mwynhewch pawb! Cymraeg 🏴 #pethaubychain
Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Dyma Gennin Pedr ger Llyn Dinas, Nant Gwynant. Gallwch weld y llyn yn glir o gopa Dinas Emrys gerllaw. Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth am y llwybr i'r bryn chwedlonol yma:bit.ly/42WljHH
Cymraeg 🏴
National Trust Cymru
#pethaubychain