Pedair blynedd yn ôl i heddiw ces i'r fraint o gael fy urddo i'r Orsedd yn eisteddfod Genedlaethol Llanrwst!
Gorsedd Cymru
Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o Gorsedd Cymru heddi yn Wrecsam. Mae’n argoeli’n dda ar gyfer Prifwyl 2025. Diolch i bobl y fro am eu brwdfrydedd.
A llongyfarchiadau i Mererid ar gael ei hurddo yn Archdderwydd,gyda diolc je mawr i Myrddin am dymor gwych fel ei rhagflaenydd.
Am ddiwrnod penigamp yn #aberdâr heddiw yn croesawu’r eisteddfod i #rhonddacynontaf
Diolch Gorsedd Cymru , diolch i’r holl wirfoddolwyr a diolch i bobl #cwmcynon am ddiwrnod wirioneddol arbennig ♥️🏴
Llongyfarchiadau mawr i John Llyfnwy neu Llyfnwy o’r Foel am gael ei dderbyn i’r orsedd heddiw. Un o sylfaenwyr Y Fic sydd wedi rhoi blynyddoedd o waith gwirfoddol i’r dafarn a’r pentra. Go dda John ac iechyd da iawn i chi🍺🏴 Gorsedd Cymru eisteddfod Cyngor Gwynedd
Llongyfs Joseff! Ceir sgwrs gyda Joseff - aelod newydd haeddiannol o Gorsedd Cymru ar RadioYesCymru
fel podlediad 🎧 ac ar Youtube 📺 @yesCymru: youtube.com/watch?v=WLeKgN…
Sesiwn hollti llechi gyda John-Joe, y chweched genhedlaeth o’i deulu i weithio gyda’r llechfaen. Amgueddfa Cymru | Museum Wales Gorsedd Cymru
Mi fethodd y cyflenwad trydan yn y ganolfan hamdden gyfagos ddoe oherwydd bod cynifer wrthi’n smwddio gwisgoedd Gorsedd Cymru ar gyfer seremoni gyhoeddi eisteddfod genedlaethol 2024. Cymru am byth 😁👏🏴✔️😎!!!!!
Gwych cael cynrychioli Gorsedd Cymru yn An tOireachtas yn Cill Airne. Y Wyddeleg yn llond y clustia. A diolch am yr wŷs annisgwyl i'r Cúirt Filíochta ('y Llys Barddoniaeth') lle rhoddwyd un o fy ngherddi ar brawf efo dedfryd o joch o wisgi a gwymon. Go raibh maith agat! #OnaS23
Mor hyfryd a balch cael fy nerbyn i rengoedd Gorsedd Cymru ddoe yn yr eisteddfod ym Moduan!
Braf cael ymuno fel 'Matthew Yr Hendy' 🏴
#steddfod2023 #Eisteddfod #Gorsedd
“A chawn glywed Whip-ar-Wîl,
A llynffantod wrth y fil”
Heb sylweddoli y cysylltiad rhwng ‘Moliannwn’ a’r diwydiant llechi yng Nghymru a’r UDA, ac yn arbennig rhwng yr aderyn Whip-ar-Wîl, Caprimulugus vociferous, a Dyffryn y Llechi, Granville ar ffin Vermont. Gorsedd Cymru